Tour de France 2012

Tour de France 2012
Enghraifft o'r canlynolTour de France Edit this on Wikidata
Math2.UWT Edit this on Wikidata
Rhan oUCI World Tour 2012 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd30 Mehefin 2012 Edit this on Wikidata
Daeth i ben22 Gorffennaf 2012 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganTour de France 2011 Edit this on Wikidata
Olynwyd gan2013 Tour de France Edit this on Wikidata
Yn cynnwys2012 Tour de France, Prologue, 2012 Tour de France, Stage 1, 2012 Tour de France, Stage 2, 2012 Tour de France, Stage 3, 2012 Tour de France, Stage 4, 2012 Tour de France, Stage 5, 2012 Tour de France, Stage 6, 2012 Tour de France, Stage 7, 2012 Tour de France, Stage 8, 2012 Tour de France, Stage 9, 2012 Tour de France, Stage 10, 2012 Tour de France, Stage 11, 2012 Tour de France, Stage 12, 2012 Tour de France, Stage 13, 2012 Tour de France, Stage 14, 2012 Tour de France, Stage 15, 2012 Tour de France, Stage 16, 2012 Tour de France, Stage 17, 2012 Tour de France, Stage 18, 2012 Tour de France, Stage 19, 2012 Tour de France, Stage 20 Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.letour.fr/indexTDF_us.html Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Map o lwybr Tour de France 2012

Tour de France 2012 oedd 99fed ras Tour de France. Cychwynnodd ar 30 Mehefin 2012 gyda chymal cyntaf yn Liège, Gwlad Belg a gorffen ar y Champs-Élysées ym Mharis ar 22 Gorffennaf. Ymwelodd y Tour â'r Swistir y flwyddyn hon yn ogystal.

Cafodd y llwybr ei gyhoeddi ar gam gan yr ASO ar eu gwefan ar 10 Hydref 2011.[1] Cadarnhaodd yr ASO y llwybr yn y cyflwyniad swyddogol ar 18 Hydref.[2]

Roedd y llwybr yn cynnwys 101.1 km a gwblhawyd ar ffurf treial amser[3] ac ond tri chymal yn gorffen i fyny allt: La Planche des Belles Filles (cymal 7), La Toussuire - Les Sybelles (cymal 11) a Peyragudes (cymal 17).

Ymwelwyd â'r Col du Grand Colombier am y tro cyntaf yn hanes y Tour de France. Cafodd yr esgyniad ei ddefnyddio'n gynharach yn y Critérium du Dauphiné, Tour de l'Avenir ac yn gyson yn y Tour de l'Ain. Esgynnwyd hefyd mynyddoedd cyfarwydd y Col de la Madeleine a'r Col de la Croix de Fer (y ddwy yn Hors catégorie) wrth i'r ras deithio drwy'r Alpau. Ar y daith drwy'r Pyreneau, esgynnwyd y Col de Tourmalet, Col d'Aubisque, Col d'Aspin ar Col de Peyresourde; a phob un o'r pedwar yn ystod cymal 16. Roedd cyfanswm o 25 esgyniad yng nghategori 1, 2, a HC yn cyfrif ar gyfer pwyntiau yng nghystadleuaeth brenin y mynyddoedd.

  1.  Le parcours du Tour de France-2012 dévoilé par erreur sur le site d’ASO. Adalwyd ar 11 Hydref 2011.
  2.  2012 Tour de France route officially presented. Adalwyd ar 18 Hydref 2011.
  3.  5 km de chrono en plus. Adalwyd ar 25 Mai 2012.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy